Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (171)v6 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 14.20
William Graham (Dwyrain De Cymru) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cydlynu gwaith y gwasanaethau brys ag adrannau eraill y Llywodraeth, asiantaethau a gwasanaethau gwirfoddol wrth fynd i’r afael â’r tywydd garw a’r llifogydd?
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.41
3 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Cyfeirio’r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) at y Goruchaf Lys
Dechreuodd yr eitem am 14.59
4 Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon: Gwasanaethau Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 15.26
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Rhoi Polisi Amaethyddol Cyffredin newydd ar waith
Dechreuodd yr eitem am 15.53
6 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Plant a Theuluoedd mewn perthynas â diwygio adran 98(1) o'r Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002
Dechreuodd yr eitem am 16.38
NDM5383 Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Theuluoedd sy'n ymwneud â diwygiadau i adran 98(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Diwygiadau Canlyniadol) 2014
Dechreuodd yr eitem am 16.48
NDM5395 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Diwygiadau Canlyniadol) 2014 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014
Dechreuodd yr eitem am 16.51
NDM5392 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynnig i atal Rheol Sefydlog 11.16 i ganiatáu i'r eitem nesaf o fusnes gael ei drafod (5 munud)
Dechreuodd yr eitem am 16.55
NDM5400 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynnig o dan eitem 9 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth 14 Ionawr 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2014
Dechreuodd yr eitem am 16.56
NNDM5396 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2014 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ionawr 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10 Dadl: Setliadau Refeniw a Chyfalaf Llywodraeth Leol ar gyfer 2014-15
Dechreuodd yr eitem am 17.02
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5393 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988:
Yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2014-2015 (Setliad Terfynol – Cynghorau), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ionawr 2014.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
15 |
12 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig.
11 Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2012-13
Dechreuodd yr eitem am 17.46
NDM5394 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r cynnydd a gyflawnwyd o safbwynt hybu cydraddoldeb a chynhwysiant yn 2012-13, fel y nodir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 13 Rhagfyr 2013.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hybu’r gwaith o ddatblygu polisïau yn y gweithle yng nghyswllt cam-drin domestig ar gyfer gweithwyr yn y sector cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai fod gan bobl sydd wedi dioddef troseddau rhyw yn eu herbyn yr hawl i wybod pryd y mae'r sawl a ymosododd arnynt yn cael ei ryddhau o gaethiwed, gan gynnwys amodau’r rhyddhau hwnnw, ac y dylai'r hawl hwn gael ei gynnwys yn y Bil arfaethedig, y Bil Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a Cham-drin Domestig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen i sicrhau bod gwasanaethau cymorth ar gyfer dioddefwyr trais rhywiol o safon gyson ac ar gael ledled Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cyflwyno Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig i Bobl Anabl fel yr un sydd wedi'i chyflwyno gan Lywodraeth y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
10 |
1 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5394 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn nodi’r cynnydd a gyflawnwyd o safbwynt hybu cydraddoldeb a chynhwysiant yn 2012-13, fel y nodir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 13 Rhagfyr 2013.
2.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hybu’r gwaith o ddatblygu polisïau yn y gweithle yng nghyswllt cam-drin domestig ar gyfer gweithwyr yn y sector cyhoeddus.
3.Yn cydnabod yr angen i sicrhau bod gwasanaethau cymorth ar gyfer dioddefwyr trais rhywiol o safon gyson ac ar gael ledled Cymru.
4.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cyflwyno Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig i Bobl Anabl fel yr un sydd wedi'i chyflwyno gan Lywodraeth y DU.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Pwynt o drefn
Cododd Ann Jones Bwynt o Drefn yn gofyn am ddyfarniad y Dirprwy Lywydd o ran p’un a oedd cyfeiriad Mohammed Asghar ati gydag ‘anabledd bach’ yn mynd yn groes i Reol Sefydlog 13.9(iv) neu (v). Dyfarnodd y Dirprwy Lywydd nad oedd wedi dwyn yr Aelod i drefn ar y pryd gan ei fod yn ystyried y sylwadau’n rhai difeddwl yn hytrach na rhai anghwrtais neu wahaniaethol, ond dywedodd y byddai’n adolygu Cofnod y Trafodion ac yn dychwelyd gyda dyfarniad pellach pe byddai angen.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.34
Daeth y cyfarfod i ben am 18:36
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 15 Ionawr 2014